Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2016
Amser: 09.00 -
10.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3769
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 283KB) Gweld fel HTML 71KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb y Llywodraeth cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Arriva Trains Wales i'w gwneud yn ymwybodol o'r ddeiseb a gofyn am eu barn ar y materion a nodwyd, gan gynnwys pryder y deisebydd ynghylch diogelwch ar y platfform yng ngorsaf Treorci.
Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol canlynol o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae hi o blaid y ddeiseb ac wedi ei llofnodi.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i longyfarch y deisebwyr ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch a chau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar y datganiad cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i roi copi i'r deisebydd o'r canllawiau diweddaraf ar ddefnyddio trefniadau oriau nas warentir a gofyn am ei barn ar hyn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am ei farn ar gydnabyddiaeth y Prif Weinidog o'r potensial i gynghorau cymuned a thref ystyried penodi pencampwr y Gymraeg.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am farn y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i longyfarch y deisebwyr ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch a chau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw'n bwriadu datblygu y ddarpariaeth a gynlluniwyd yn flaenorol i'w gwneud yn orfodol i Awdurdodau Lleol ddarlledu cyfarfodydd ac, os felly, sut.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad y Ceisiadau sydd gyda Cadw ar hyn o bryd a chynllun cadwraeth y datblygwr, a barn y deisebydd ar ôl hynny, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried barn y deisebydd bod y cyfle i gyflawni nod y ddeiseb wedi'i golli, cytunwyd i gau'r ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am gymryd rhan yn y broses ddeisebu.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan fod Maes Awyr Caerdydd wedi datgan yn glir mai eu cyngor i Lywodraeth Cymru yw cadw enw Maes Awyr Caerdydd.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor argymhellion Adolygiad System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.